Royston Jones
Mae dyn 39 oed wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio’i wraig mewn ysbyty.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Royston Jones wedi ymosod ar ei wraig, Claire Jones oedd yn gweithio yn uned gofal dwys Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

Fe aeth Claire Jones yn anymwybodol ar ol i Royston Jones geisio ei thagu.

Clywodd y llys y gallai hi fod wedi marw oni bai bod ei chydweithwyr wedi ymyrryd.

Roedd y cwpwl wedi gwahanu cyn yr ymosodiad a chlywodd y llys fod Royston Jones o’r farn fod ei wraig yn cael perthynas â dyn arall.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 20 Chwefror.