Mae landlord tafarn yn Abertawe a gollodd achos llys wedi iddo ddangos gemau’r Uwch Gynghrair yn anghyfreithlon wedi ennill yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Bu’n rhaid i Anthony Luxton, landlord tafarn y Rhyddings ym Mrynmill, dalu costau o £65,000 ar ôl dangos gemau gan ddefnyddio cerdyn lloeren anghyfreithlon.
Roedd yr Uwch Gynghrair yn honni ei fod wedi torri rheolau hawlfraint trwy ddangos y gemau.
Ond penderfynodd Llys Apêl Sifil Llundain y dylai gael yr hawl i apelio.
Y cefndir
Yn dilyn ymweliadau ag oddeutu 200 o dafarnau yn ne Cymru, penderfynodd yr awdurdodau erlyn nifer fach ohonyn nhw am dorri rheolau darlledu.
Trwy danysgrifio i orsafoedd o dramor, gall tafarnau ddangos gemau Abertawe (a Chaerdydd y tymor diwethaf) am 3 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn, er nad oes gan Sky Sports na BT Sport yr hawl i ddarlledu gemau sy’n cael eu chwarae ar yr amser hwnnw.
Mae logo’r Uwch Gynghrair yn cael ei ddangos ar y darllediadau, sy’n torri rheolau hawlfraint.