George North

Dyw George North ddim wedi cael ei enwi yn nhîm Cymru i wynebu’r Alban dydd Sul, pum diwrnod ar ôl iddo daro’i ben ddwywaith yn erbyn Lloegr yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad.

Cafodd North ddwy glec i’w ben yn y golled o 16-21 yn erbyn Lloegr nos Wener, ond dywedodd Undeb Rygbi Cymru nad oedd yn dioddef o unrhyw sgil effeithiau cyfergyd.

Liam Williams fydd yn cymryd lle North ar yr asgell, yr unig newid mae Warren Gatland wedi ei wneud i’r pymtheg fydd yn dechrau.

Scott Williams yw’r unig newid ar y fainc, ac fel arall mae Gatland wedi glynu gyda’r tîm chwaraeodd yn y gêm agoriadol.

Gorffwys i North

Dywedodd URC nad oedd George North yn dangos unrhyw symptomau o gyfergyd, ond eu bod wedi penderfynu ei adael allan o’r tîm yr wythnos hon er mwyn iddo gael cyfnod hirach i wella.

Cafodd North gyfergyd yn ystod gemau’r hydref hefyd, ac mae’n ymddangos fod Cymru eisiau rhoi pob cyfle iddo wella’n llawn o unrhyw sgileffeithiau posib.

“Rydyn ni wedi cymryd y penderfyniad i roi cyfnod hirach o wella i George cyn y gêm yn erbyn Ffrainc, yn dilyn ei gyfergyd yn yr hydref,” esboniodd Gatland.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru hefyd fod y chwaraewyr yn awchu i wneud yn iawn am y perfformiad agoriadol siomedig yn erbyn Lloegr.

“Mae ymateb y chwaraewyr wrth ymarfer yr wythnos hon wedi bod yn bositif iawn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y cyfle i gywiro camgymeriadau’r penwythnos diwethaf,” ychwanegodd Gatland.

“Fe ddechreuodd yr Alban y twrnament yn dda yn erbyn Ffrainc [gan golli o 15-8] gan adeiladu ar eu hymgyrch yn yr hydref ac fe fyddan nhw’n edrych ymlaen at ein croesawu ni i Gaeredin y penwythnos hwn.

“Rydyn ni’n gwybod beth sydd yn rhaid i ni wneud ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein perfformiad ni’n adlewyrchu hynny.”

Tîm Cymru i wynebu’r Alban:

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones,  Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau.

Eilyddion:  Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Scott Williams.