Aaron Ramsey
Mae Arsenal – a Chymru – yn aros i weld pa mor ddifrifol yw anaf diweddaraf Aaron Ramsey, ar ôl i’r chwaraewr canol cae frifo llinyn y gar eto wrth chwarae i’w glwb neithiwr.
Daeth Ramsey oddi ar y fainc wrth i Arsenal drechu Caerlŷr 2-1, ond yn fuan wedyn roedd rhaid iddo adael y cae ar ôl ymddangos fel petai wedi tynnu cyhyr.
Dim ond yn ddiweddar y mae Ramsey wedi dychwelyd o anaf i linyn y gar, ar ôl bod allan am chwe wythnos dros gyfnod y Nadolig.
Ac fe fydd yr anaf diweddaraf yn achosi pryder i reolwr Cymru Chris Coleman, gan fod y tîm cenedlaethol yn wynebu Israel mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 hollbwysig ar 28 Mawrth.
‘Ddim yn edrych yn dda’
Mae Ramsey wrthi’n cael ei asesu gan dîm meddygol Arsenal ar hyn o bryd i weld pa mor ddifrifol yw ei anaf diweddaraf.
Ond fe gyfaddefodd ei reolwr Arsene Wenger ar ôl y gêm fod hi ddim yn edrych yn dda.
“Mae e’n edrych felly [ei fod wedi anafu llinyn y gar eto]. Dydw i ddim yn gwybod pa mor wael yw e eto,” meddai Wenger.
“Ond o’i weld e, doedd e ddim yn edrych yn dda – pan mae rhywun yn stopio’n syth ac eistedd i lawr, dyw hynny ddim yn newyddion da.
“Mae anafiadau cyhyrol wedi bod yn digwydd dro ar ôl tro nawr ac mae’n anodd – d’yn ni heb ddarganfod pam.”
Trafferth i Gymru
Bydd Cymru yn herio Israel mewn ychydig dros chwe wythnos, ac felly bydd Chris Coleman yn gobeithio’n fawr nad yw anaf Ramsey yn un rhy wael.
Mae’r amddiffynnwr James Chester eisoes yn wynebu ras yn erbyn y cloc i fod yn ffit ar gyfer y gêm, ar ôl datgymalu ei ysgwydd ychydig wythnosau yn ôl.
Ac mae Coleman eisoes wedi cael gwybod na fydd y Emyr Huws ar gael i wynebu Israel, ar ôl i’r chwaraewr canol cae gael anaf difrifol i’w bigwrn.
Mae Cymru’n ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd ar ôl pedair gêm, ond Israel sydd ar y brig gyda thair buddugoliaeth o’u tair gêm nhw.