Mae adroddiadau’n awgrymu mai cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup yw’r ffefryn ar gyfer swydd rheolwr QPR.
Mae cadeirydd QPR, Tony Fernandes eisoes wedi dweud ei fod ar fin penodi olynydd i Harry Redknapp, a ymddiswyddodd yr wythnos diwethaf.
Mae QPR yn waelod ond un yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, ac mae’r tîm yng ngofal Chris Ramsey.
Mae cyn-reolwr Spurs, Tim Sherwood yn un o’r enwau eraill sydd wedi cael eu cysylltu â’r swydd.
Awgrymodd Fernandes ar ei dudalen Twitter fod y cyfryngau’n anghywir i gredu mai Sherwood fyddai’n cael ei benodi, gan ychwanegu bod y clwb ar fin arwyddo “breuddwyd o reolwr”.
Roedd QPR wedi colli pob un o’u gemau oddi cartref cyn i Redknapp ymddiswyddo, gan ddweud bod angen llawdriniaeth arno ar ei benglin.
Yn wahanol i’r arfer, roedd diwrnod ola’r ffenest drosglwyddo’n un tawel i Redknapp.