Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi mynnu fod Gareth Bale yn ddigon cryf i wrthsefyll y feirniadaeth y mae’n ei gael yn Real Madrid ar hyn o bryd.
Fe gollodd Madrid o 4-0 yn erbyn eu gelynion lleol Atletico dros y penwythnos, gyda pherfformiad Bale yn y gêm yn cael ei ddisgrifio fel ‘amherthnasol’ gan un papur newydd.
Ond fe fynnodd Coleman na fyddai hynny yn effeithio ar chwaraewr drytaf y byd, ac y byddai Bale yn barod i danio gyda Chymru yn eu gêm ryngwladol nesaf yn Israel.
Disgwyliadau uchel
Mae Bale hefyd wedi cael ei feirniadu gan rai yn ddiweddar am fod yn hunanol mewn gemau a pheidio â phasio’n ddigon aml.
Ond dyw Coleman ddim yn credu fod y feirniadaeth honno’n un deg, a bod Bale yn ddigon cryf i ddelio â’r pwysau sydd arno o hyd.
“Fe yw chwaraewr drytaf y byd ac maen nhw ar ei gefn e ond bydd e’n iawn,” meddai Coleman wrth PA Sport.
“Os ydych chi’n mynd i glwb mwyaf y byd am y prif mwyaf yn hanes pêl-droed rydych chi un ai am gario ‘mlaen gyda phethau a pheidio â chael eich dal yn yr holl beth, neu chi’n mynd i adael iddo fe eich effeithio chi.
“Fi’n gwybod pa un sy’n wir am Gareth – ond Madrid yw e ac mae disgwyliadau mawr yno.”
Cyfraniad Bale
Mae rheolwr Real Madrid Carlo Ancelotti wedi mynnu y bydd Bale yn dechrau yn y tîm os yw e’n ffit o hyd.
A dyw Coleman ddim yn credu bod unrhyw reswm i amau cyfraniad Bale i’r tîm ar hyn o bryd.
“Maen nhw newydd golli’n drwm i Atletico ac mae’r wasg ar ei gefn, a ffws yn cael ei wneud pan wnaeth e ddim pasio’r bêl achos Ronaldo yw’r boi yn fanno,” meddai Coleman.
“Roedd pobl yn gweld Ronaldo yn chwifio’i freichiau a Gareth ddim yn pasio ond fi wedi gweld Ronaldo yn yr un safle a ddim yn pasio.
“Sawl gôl mae Gareth wedi ei greu a faint o goliau pwysig mae e wedi sgorio?
“Fe enillon nhw Gwpan Ewrop llynedd ac roedd e’n rhan fawr o’r tymor gwych hwnnw, ac maen nhw dal ar frig y gynghrair yn ei ail [dymor yno].”
Dihangfa gyda Chymru
Bydd Coleman yn gobeithio gweld Bale yn ffit ac yn iach ar gyfer gêm ragbrofol nesaf Cymru draw yn Israel ar 28 Mawrth.
Mae bechgyn Coleman wedi cael dechreuad da i’r ymgyrch ar yn ail ar ôl pedair gêm, ond Israel sydd ar y brig ar ôl ennill bob un o’u tair gêm.
Ac fe fynnodd rheolwr y tîm cenedlaethol fod y chwaraewyr yn gwerthfawrogi’r cyfle hwnnw i fynd i ffwrdd gyda Chymru am ychydig ddiwrnodau, beth bynnag yw’r sefyllfa gyda’u clybiau.
“Dw i’n dweud wrth bob un o’r chwaraewyr y gallan nhw anghofio unrhyw beth sydd yn digwydd gyda’u clybiau,” meddai Coleman.
“Mae’n ddihangfa iddyn nhw a dyw e ddim yn wahanol i Gareth, mae e’n ymroi i’r achos.
“Mae e eisiau dod a chynrychioli Cymru a bydd beth sy’n digwydd ym Madrid ddim yn ei boeni e.
“Mae e’n torri ei fol eisiau chwarae ar y llwyfan rhyngwladol mewn pencampwriaeth fawr ac mae e’n gwybod bod ganddo siawns dda gyda’r criw yma.”