George North
Mae World Rugby wedi rhyddhau datganiad y bore yma yn dweud na ddylai George North fod wedi aros ar y cae ar ôl taro’i ben am yr ail waith yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr nos Wener.
Ond fe ddywedodd yr awdurdodau rygbi eu bod wedi trafod ag arbenigwyr annibynnol cyn derbyn esboniad Undeb Rygbi Cymru fod y staff meddygol ddim wedi gweld y digwyddiad ar y pryd.
Mae disgwyl nawr y bydd World Rugby yn ceisio sicrhau fod staff meddygol yn medru gweld lluniau’r camerâu yn ystod gemau er mwyn sicrhau eu bod yn gweld unrhyw beth allai fod o’i le.
Dwy ergyd
Cafodd George North ei daro ddwywaith yn ei ben yn ystod gêm agoriadol y Chwe Gwlad ble collodd Cymru o 21-16.
Yn yr hanner cyntaf cafodd yr asgellwr ei gicio yn ei ben yn ddamweiniol gan ail reng Lloegr Dave Attwood, a chafodd ei dynnu oddi ar y cae dros dro tra’r oedd y staff meddygol yn ei asesu am gyfergyd.
Ar ôl dychwelyd i’r cae, fe wnaeth o daro pennau â bachwr Cymru Richard Hibbard yn ystod yr ail hanner, digwyddiad wnaeth tîm meddygol Cymru ddim ei weld ond oedd yn amlwg i bawb oedd yn gwylio ar y teledu.
Mae Cymru wedi dweud bellach y bydd eu staff meddygol yn medru gweld lluniau teledu ar gyfer pob gêm am weddill y gystadleuaeth.
Ond ar ôl asesu North ar ôl y gêm maen nhw’n hyderus nad yw’n teimlo unrhyw sgil effeithiau o’r ddwy ergyd, ac y bydd ar gael i chwarae yn erbyn yr Alban ddydd Sul.
Datganiad World Rugby
Mewn datganiad heddiw fe ddywedodd World Rugby na ddylai North fod wedi aros ar y cae ar ôl taro yn erbyn Hibbard ar ôl 61 munud o’r gêm.
“Mae protocol anafiadau pen World Rugby yn dweud yn glir y dylai chwaraewr adael y cae yn syth ac yn barhaol os oes unrhyw symptomau gweledol neu awgrym o gyfergyd,” meddai’r datganiad.
“Fodd bynnag, ar ôl trafodaeth drylwyr a barn arbenigol annibynnol y Grŵp Cyngor Cyfergyd, mae World Rugby yn derbyn esboniad URC nad oedd eu tîm meddygol nhw na’r meddyg annibynnol wedi gweld y digwyddiad.
“Rydym yn deall fod y meddygon wedi ymddwyn o fewn fframwaith y wybodaeth oedd ganddyn nhw ar y pryd ac y bydden nhw wedi ymddwyn yn wahanol petai nhw wedi gallu gweld yn glir o ochr y cae, neu eu bod wedi gweld yr un lluniau a’r rheiny oedd yn gwylio ar y teledu.”
Dywedodd World Rugby y byddan nhw’n edrych i weld a fyddai’n bosib defnyddio technoleg fideo i adnabod unrhyw anafiadau ar y cae fel maen nhw’n digwydd.
Bydd yn rhaid i bob cystadleuaeth rygbi elit hefyd sicrhau fod timau meddygol yn medru gwylio digwyddiadau’r gêm yn ôl ar sgrin.