George North
Bydd staff meddygol yng Nghymru yn cael gweld fideos ailchwarae o gemau rygbi ar unwaith yn ystod gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn.
Mae’n dilyn dau ddigwyddiad yn ymwneud â’r asgellwr George North yn cael ei daro yn ei ben yn ystod gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Gwener diwethaf.
Cafodd yr asgellwr ei gicio yn ei ben yn ddamweiniol gan ail reng Lloegr Dave Attwood yn yr hanner cyntaf, a chafodd ei dynnu oddi ar y cae dros dro tra’r oedd y staff meddygol yn ei asesu am gyfergyd.
Pan ddychwelodd i’r cae, fe wnaeth o wrthdaro pennau â bachwr Cymru Richard Hibbard yn ystod yr ail-hanner.
Roedd World Rugby wedi bod yn astudio fideo o’r driniaeth a gafodd North, ac wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am sicrwydd eu bod nhw wedi dilyn y canllawiau priodol.
Bydd Cymru, a George North yn parhau a’u hymgyrch Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin ddydd Sul.