Taulupe Faletau
Mae wythwr tîm Cymru, Taulupe Faletau wedi mynnu fod “gobaith o hyd” y gall Cymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn.
Bydd Faletau a gweddill y tîm yn teithio i Gaeredin i wynebu’r Alban ddydd Sadwrn ar ôl colli i Loegr nos Wener.
Gyda thair o’u pedair gem yn weddill yn cael eu chwarae i ffwrdd o gartref – yn cynnwys gem i ffwrdd ym Mharis ddiwedd y mis, mae gan Gymru fynydd i’w ddringo.
Fe gyfeiriodd Faletau at y twrnament yn 2013, ble y collodd Cymru eu gem gyntaf yn erbyn y Gwyddelod, ond fe enillwyd y twrnament, gyda buddugoliaeth o 30-3 yn erbyn Lloegr.
“Roedd yr hogiau yn siomedig, ond fe fyddwn ni’n bwrw ‘mlaen ac yn ôl ar gyfer yr Alban, gyda’r gobaith y byddwn yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
“Mae cyfle o hyd inni ennill y twrnament. Ond mae angen gwneud y gwaith caled.”
Yr un oedd tynged yr Alban ym Mharis dros y penwythnos wrth iddyn nhw golli 15-8 yn erbyn y Ffrancwyr.
Mae Cymru wedi curo’r Alban saith gwaith yn olynol yn ystod cyfnod Warren Gatland wrth y llyw, gyda chweir y llynedd o 51-3 yn Stadiwm y Mileniwm.