Vladimir Putin
Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Philip Hammond wedi cyhuddo Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin o “ymddwyn fel teyrn”.
Dywedodd Hammond y dylai Putin “newid ei ymddygiad” er mwyn adlewyrchu trafferthion economaidd ei wlad.
Rhybuddiodd Hammond na ddylid rhoi arfau i Iwcrain “ar hyn o bryd”, ac fe amddiffynnodd benderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngwladol ynghylch y sefyllfa yn y wlad.
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ymhlith yr arweinwyr sy’n cynnal trafodaethau â Putin ac Arlywydd Iwcrain, Petro Poroshenko.
Nod y trafodaethau yw llunio dogfen er mwyn sicrhau heddwch rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Philip Hammond wrth Sky News fod angen darganfod ateb i’r argyfwng yn Iwcrain, a’i bod yn bwysig i economi Rwsia fod yr anghydfod yn dod i ben.
“Dyma un o gyfleoedd olaf Rwsia i osgoi rhagor o niwed sylweddol i’w heconomi sydd yn bownd o ddigwydd os yw diffyg gweithredu Vladimir Putin yn gorfodi gweddill y byd i gynyddu a thynhau’r sancsiynau sydd eisoes wedi niweidio economi Rwsia’n fawr.”
Mae’r Almaen eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig cymorth i luoedd Iwcrain, ond mae’r Unol Daleithiau’n ystyried rhoi arfau iddyn nhw o dan rai amgylchiadau penodol.
Ychwanegodd Hammond fod y sancsiynau ar hyn o bryd yn cael effaith bositif ar Rwsia.