Magna Carta
Mae un o ddogfennau’r Magna Carta wedi cael ei darganfod ymhlith cofnodion Cyngor Sir Swydd Gaint, ac mae arbenigwyr yn dweud y gallai fod werth hyd at £10 miliwn.

Roedd y ddogfen ymhlith cofnodion yn adran hanes y Cyngor Sir yn Maidstone, ond mae’n eiddo cyngor tref Sandwich.

Yn ôl yr Athro Nicholas Vincent o Brifysgol East Anglia, mae’r ddogfen yn un ddilys.

“Mae’n ddarganfyddiad ffantastig yn ystod yr wythnos pan gafodd pedair fersiwn adnabyddus eu casglu ynghyd yn San Steffan.

“Mae’n newyddion gwych i Sandwich sy’n ei osod ymhlith categori bach o drefi a sefydliadau sy’n berchen ar fersiwn 1300.”

Mae lle i gredu y gallai rhagor o fersiynau gael eu darganfod, meddai.

Dim ond 24 o fersiynau o’r Magna Carta sy’n bodoli ar draws y byd, yn ôl arbenigwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Tref Sandwich ei bod yn “anrhydedd” cael berchen ar un o’r dogfennau hanesyddol.

Roedd fersiwn 1300 wedi’i gyhoeddi gan Edward I ac mae tri o’i chymalau’n parhau ar lyfrau’r statud hyd heddiw.

Y tri chymal yw amddiffyn yr eglwys, amddiffyn dinas Llundain a’r hawl i sefyll prawf gerbron rheithgor.

Cafodd y fersiwn gyntaf ei llofnodi gan Archesgob Caergaint a’r Brenin John yn 1215.