Map o Serbia
Mae Llys Cyfiawnder Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig wedi dyfarnu nad oedd Serbia a Chroatia wedi cyflawni hil-laddiad yn erbyn pobl y ddwy wlad yn ystod y rhyfeloedd gwaedlyd yn y 1990au.

Fe allai’r dyfarniad ddod a diwedd i’r drwg deimlad rhwng y ddwy wlad yn y Balcanau.

Dywedodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol bod lluoedd Serbia wedi cyflawni troseddau eang yng Nghroatia ar ddechrau’r rhyfel, ond nad oedd wedi cyflawni hil-laddiad.

Roedd y panel o feirniaid hefyd wedi dyfarnu bod Croatia hefyd wedi cyflawni troseddau difrifol yn ystod ymdrech yn 1995 i adennill tir gan y Serbiaid, ond nad oedd yn euog o hil-laddiad.