William Hague
Gall pwerau Aelodau Seneddol o’r Alban i bleidleisio dros osod lefel treth incwm yng ngweddill y DU gael ei ddileu o dan gynlluniau’r Ceidwadwyr i ddiwygio Tŷ’r Cyffredin.
Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin, William Hague, wedi cyhoeddi bod ei blaid wedi penderfynu cefnogi’r opsiwn lleiaf radical o dri opsiwn a gyflwynwyd i ddatrys y galw am bleidleisiau Saesneg ar gyfer cyfreithiau yn Lloegr.
Byddai’r cynlluniau’n rhoi’r pŵer i Aelodau Seneddol Lloegr – a Chymru ar rai polisïau – yn unig i bleidleisio dros faterion sydd wedi’u datganoli i’r Alban, ond byddai dal angen mwyafrif o holl Aelodau Seneddol y DU i basio deddfwriaeth.
Byddai Aelodau Seneddol Cymru hefyd yn cael pleidleisio ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Drwy wrthod opsiwn mwy radical, mae William Hague mewn perygl o gael ei feirniadu gan feinciau cefn y Ceidwadwyr dros raddfa’r pwerau ychwanegol a addawyd i Holyrood i berswadio Albanwyr i wrthod annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi.
Ond mae’n debyg y byddan nhw’n hapusach fod materion ariannol yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau gan ei gwneud hi’n anoddach i Lywodraeth Lafur y dyfodol basio polisïau heb gefnogaeth ei ASau yn yr Alban.
Mae beirniaid yn dweud y byddai’r cynlluniau yn mynd yn groes i argymhellion Comisiwn Smith, a luniodd pwerau newydd i’r Alban yn dilyn y bleidlais yn erbyn annibyniaeth. Fe wnaeth argymell y dylai Aelodau Seneddol ar draws y DU “barhau i benderfynu ar gyllideb y DU, gan gynnwys treth Incwm.”
O dan y cynlluniau, dim ond ASau sy’n dal etholaethau yn Lloegr fydd yn cael cymryd rhan mewn camau diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â Lloegr yn unig. Ond byddai’r ddeddfwriaeth derfynol dal angen cymeradwyaeth yr holl Aelodau Seneddol cyn troi’n ddeddf.
Dywedodd ffynhonnell o Downing Street eu bod yn cydnabod fod “gwahanol safbwyntiau” o fewn y blaid, ond eu bod yn disgwyl “cefnogaeth eang iawn” i’r cynlluniau.
Cafodd deddfwriaeth ddrafft ei gyhoeddi fis diwethaf a fyddai’n rhoi rheolaeth dros dreth incwm am y tro cyntaf i Lywodraeth yr Alban.