Logo Boko Haram
Mae eithafwyr Islamaidd wedi ymosod ar ddinas Maiduguri yng ngogledd-ddwyrain Nigeria am y trydydd gwaith o fewn wythnos.

Yn ôl trigolion lleol, doedden nhw ddim yn gallu cysgu oherwydd sŵn ffrwydradau, rocedi a dryllau’n cael eu tanio.

Dywedodd aelod blaenllaw o’r fyddin fod yr eithafwyr yn ymosod ar y ddinas o bob cyfeiriad, ac fe fu maes awyr y ddinas ar gau ers mis Rhagfyr 2013 yn dilyn ymosodiad difrifol pan gafodd pump o awyrennau eu dinistrio.

Maiduguri sy’n cael ei ystyried yn fan geni’r eithafwyr Boko Haram.

Daw’r ymosodiad diweddaraf yn dilyn adroddiadau bod awyren o wlad Chad wedi helpu i fomio tref Gamboru ar y ffin gyda Chamerŵn.

Mae byddin o 7,500 o filwyr wedi cael ei sefydlu i wrthsefyll unrhyw fygythiad gan eithafwyr yn Nigeria.

Mae Boko Haram yn rheoli hyd at 130 o drefi a phentrefi yn Nigeria erbyn hyn, yn ôl Amnest Ryngwladol.

Mae etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn Nigeria ar Chwefror 14, pan fydd yr Arlywydd presennol Goodluck Jonathan yn gobeithio dal ei afael ar y wlad.