Tripoli
Mae dynion arfog yn cadw pobl yn wystlon mewn gwesty moethus yn Libya sy’n boblogaidd ymhlith ymwelwyr o dramor.
Cafodd o leiaf tri o swyddogion diogelwch eu lladd yng Ngwesty Corinthia, yn ôl asiantaeth diogelwch Tripoli.
Yn ôl adroddiadau roedd pump o ddynion arfog yn gwisgo mygydau wedi mynd i mewn i’r gwesty gan danio gynnau.
Dywedodd un o reolwyr y gwesty, Hassan al-Abey, bod y gwesteion wedi cael eu symud o’r gwesty cyn i’r dynion arfog wrthdaro gyda swyddogion diogelwch a ffrwydro bom car ym maes parcio’r gwesty.
Ychwanegodd bod y gwesteion yn dod o Ewrop a Thwrci.
Mae cyfres o fomiau car ac ymosodiadau wedi bod yn Tripoli yn dilyn rhyfel cartref y wlad yn 2011.