David Cameron
Dywedodd David Cameron ei fod yn credu y gall dadleuon teledu rhwng arweinwyr y pleidiau yn ystod ymgyrch etholiadol fwrw ymlaen, os yw pleidiau Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnwys.
Fis Hydref diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog wrthwynebu cynlluniau ar gyfer tair dadl a gyflwynwyd gan y pedwar prif sianel deledu oherwydd eu bod yn cynnwys arweinydd UKIP, Nigel Farage, ond nid arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett.
Nawr, mae’r darlledwyr yn cynnig fformat diwygiedig. O dan y cynlluniau, byddai’r ddwy ddadl sy’n cael eu darlledu ar y BBC ac ITV yn cynnwys arweinwyr y Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, y Blaid Werdd, SNP a Phlaid Cymru.
Yna, byddai trydedd ddadl, i’w darlledu ar Channel 4 a Sky, yn gweld David Cameron yn mynd benben ag Ed Miliband – gan mai nhw yw’r ddau fwyaf tebygol i fod yn brif weinidog yn dilyn yr etholiad.
Dywedodd David Cameron heddiw fod y fformat newydd yn codi’r cwestiwn pam nad yw pleidiau Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnwys.
Mae’r blaid unoliaethol, y DUP, sydd ag wyth o Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, eisoes wedi protestio oherwydd bod ganddyn nhw fwy o seddi na’r SNP, Plaid Cymru, UKIP a’r Gwyrddion.
Pan ofynnwyd iddo ar BBC Breakfast y bore ma pryd fyddai’n cytuno i gymryd rhan, meddai David Cameron bod y dadleuon yn beth da ond fod angen trafodaethau pellach ynglŷn â phwy sy’n cael eu cynnwys a’r fformat.
Mae Ed Miliband eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y trafodaethau, pa bynnag fformat a ddewisir – ac os fydd David Cameron yn ymddangos ai peidio.