Bedd Alexander Litvinenko
Bydd ymchwiliad cyhoeddus hir-ddisgwyliedig i farwolaeth yr ysbïwr Rwsiaidd, Alexander Litvinenko, yn dechrau heddiw, mwy nag wyth mlynedd ers ei farwolaeth.

Bu farw Alexander Litvinenko ym mis Tachwedd 2006 ar ôl yfed te oedd wedi cael ei wenwyno gyda’r deunydd ymbelydrol poloniwm-210.

Cafodd ei wenwyno tra’n cwrdd â dau ddyn o Rwsia yng Ngwesty’r Mileniwm yn Sgwâr Grosvenor, Llundain. Andrei Lugovoi, a fu’n gweithio i’r KGB, a Dmitri Kovtun, sy’n cael eu hamau o’r llofruddiaeth. Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau ac yn parhau i fod yn Rwsia.

Mae teulu Alexander Litvinenko o’r farn ei fod yn gweithio i MI6 ar y pryd a’i fod wedi cael ei ladd ar orchymyn y Kremlin.

Mae cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Robert Owen, eisoes wedi dweud fod cyfrifoldeb honedig Rwsia “o bwysigrwydd canolog i fy ymchwiliad”.

Ond mae llywodraeth Rwsia wedi gwrthod cymryd rhan yn yr ymchwiliad gan nad yw’n cytuno â’r modd mae  ymchwiliadau cyhoeddus yn cael eu cynnal.