Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd hwb yn y diwydiant adeiladu yn creu 5,300 o swyddi yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Dangosodd adroddiad gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu bod disgwyl mwy o dwf o fewn y diwydiant nag a gafodd ei ragweld yn wreiddiol – gyda’r farchnad dai preifat yn cynyddu o 4.6%.

Bydd y twf i’w weld yn arbennig yng Nghymru ac yng ngogledd Lloegr, yn ôl y bwrdd.

“Mae ein rhagolygon yn dangos bod y diwydiant adeiladu yn mynd i weld twf eithriadol yn y blynyddoedd nesaf,” meddai’r adroddiad.

“I helpu gyda hynny, mae’r diwydiant angen ymrwymiad clir gan y pleidiau gwleidyddol y bydd prosiectau isadeiledd yn cael cymorth llawn y Llywodraeth nesaf.”