Bydd y gwasanaethau ambiwlans brys yn elwa o hwb ariannol gwerth £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford heddiw.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) yn derbyn £8m o’r £40m o arian ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar gyfer pwysau’r gaeaf a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn gynharach y mis hwn.

Mae’r Llywodraeth o’r farn y bydd y cyllid ychwanegol yn helpu parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chlinigwyr eraill i ymateb i’r galw cynyddol gan y cyhoedd, yn arbennig dros fisoedd y gaeaf.

Yn ogystal, mae’r Llywodraeth wedi cymeradwyo £3m o gyllid cyfalaf sy’n golygu y gall Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru brynu 17 o ambiwlansys brys rheng flaen newydd, yn ychwanegol i’r 243 o ambiwlansys presennol.

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae gwella perfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn fuddsoddiad sy’n werth miliynau o bunnoedd ac yn brawf o’r ymrwymiad hwnnw.

“Mae’r pecyn buddsoddi ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans mewn gwell sefyllfa i ddarparu ymateb cyflym i alwadau ledled Cymru lle mae bywydau yn y fantol.”