Fe fydd digwyddiad cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ddiweddarach i gofio am yr Iddewon a gollodd eu bywydau yn yr Holocaust 70 mlynedd yn ôl.

Rhan ganolog o’r digwyddiad fydd seremoni cynnau canhwyllau, lle bydd goroeswyr yr Holocost sy’n byw yng Nghymru yn rhoi canhwyllau i ddisgyblion o Ysgol Trecelyn yng Nghaerffili.

Byddant yn cael eu cynnau o gannwyll arbennig a grëwyd i nodi’r 70 mlynedd gan yr artist a’r cerflunydd byd enwog Syr Anish Kapoor.

Mady Gerrard fydd prif siaradwr y digwyddiad. Fel un o oroeswyr yr Holocost a ddaeth i Gymru o Hwngari 58 o flynyddoedd yn ôl, bydd yn cyflwyno’i haraith er cof am Is-gapten John Randall, cyn filwr SAS Prydain a’i rhyddhaodd yn garcharor ifanc yn Belsen. Bu hi hefyd yn garcharor yng ngwersyll Auschwitz.

Dyletswydd

“Mae’n bwysig na yw’r rheini a fu farw dan erledigaeth y Natsïaid a hil-laddiadau eraill ar draws y byd byth yn mynd yn angof,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i ni gofio’r rheini a wynebodd yr erledigaeth fwyaf erchyll. Mae Cymru yn falch o barhau i gynnig cartref i lawer o bobol sydd wedi dioddef rhag erchyllterau. Ein dyletswydd ni yw cadw eu hanesion dewr yn fyw i sicrhau nad yw gweithredoedd aflan o’r fath yn digwydd eto.”

Cynhelir y seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd am 11.00 y bore.