Dim ond 100 diwrnod sydd i fynd nes yr etholiad cyffredinol ac mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi eu polisïau newydd heddiw.
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood hefyd wedi annog pobl Cymru i ymuno ag ymgyrch ei phlaid i wneud i Gymru gyfri fis Mai ac i ddychwelyd y grŵp cryfaf erioed o ASau Plaid Cymru i San Steffan.
Gyda’r etholiad yma yn debygol o fod yn un o’r rhai agosaf ers cenhedlaeth, mae arbenigwyr yn ansicr a fydd ‘na fwyafrif yn y Senedd i un blaid neu hyd yn oed os oes posibilrwydd am glymblaid.
Heddiw, mewn ymgais i ennill cefnogaeth, mae’r Ceidwadwyr a’r blaid Lafur wedi cyhoeddi polisïau newydd.
Ceidwadwyr
Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyflwyno toriadau newydd mewn budd-daliadau “o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf” os fydden nhw’n fuddugol yn yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y llynedd ei fod am leihau’r uchafswm blynyddol o fudd-daliadau o £26,000 i £23,000. Mae’n gobeithio y bydd yr arian yna’n gallu mynd at ddarparu £135miliwn tuag at brentisiaethau erbyn 2020.
Llafur
Mae cynllun y Blaid Lafur yn cynnig archwiliadau diogelwch i nodi risgiau iechyd yng nghartrefi pobl oedrannus sy’n agored i niwed yn Lloegr er mwyn torri cost derbyniadau diangen i ysbytai.
Mae’n rhan o Gynllun 10 Mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael ei ddatgelu gan lefarydd iechyd Llafur, Andy Burnham, heddiw. Mae’r Cynllun 10 Mlynedd hefyd yn cynnwys 5,000 o “weithwyr gofal cartref” newydd i helpu pobl sy’n gadael yr ysbyty a galluogi pobl i dreulio eu dyddiau olaf yn eu cartrefi.
Bydd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband yn rhybuddio bod “dyfodol y GIG yn y fantol” yn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai, a byddai buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn gadael gwasanaeth fyddai’n “amhosibl ei hadnabod.”
Plaid
Dywedodd Leanne Wood y gall pleidlais i Blaid Cymru gyflwyno newid ystyrlon i Gymru.
Ychwanegodd fod wythnosau cyntaf blwyddyn yr etholiad wedi datgelu’r gwahaniaeth clir rhwng Plaid Cymru a phleidiau San Steffan yng Nghymru gyda’r Blaid yn brwydro yn erbyn ymrwymiad Llafur a’r Torïaid i biliynau o doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus a gwariant o £100bn ar genhedlaeth newydd o arfau niwclear.
Dywedodd Leanne Wood: “Mae hon yn etholiad allweddol i bobl Cymru. Gyda dim ond 100 diwrnod i fynd, rwy’n annog holl bobl Cymru i ymuno ag ymgyrch Plaid Cymru er mwyn gwneud i Gymru gyfri fis Mai.
“Pan fo Plaid Cymru’n ennill, mae Cymru’n gryf. Rydym wedi profi hyn gyda record wych ein ASau yn San Steffan, yn arwain y ffordd ar ddeddfwriaeth yn erbyn stelcian a thrais yn y cartref, herio toriadau lles y Glymblaid, a brwydro dros gyllido teg i’n cenedl.
“Ar 7 Mai, dim ond un blaid fydd â’r gorau i Gymru yn ei chalon. Mae’n rhaid i ni ddychwelyd y grŵp cryfaf erioed o ASau Plaid Cymru i Dŷ’r Cyffredin i wneud yn siŵr fod llais Cymru’n cael ei glywed a bod ein cymunedau’n cael eu gwarchod rhag poen parhaol polisïau San Steffan.”