Bydd dinasoedd gogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau – o Boston i Efrog Newydd a Philadelphia – yn cau bron yn gyfan gwbl heddiw wrth i storm eira agosáu.
Mae disgwyl hyd at dair troedfedd o eira ar ranbarth sy’n gartref i fwy na 35 miliwn o bobl. Mae disgwyl i’r storm gyrraedd ei hanterth y bore ma.
Mae mwy na 7,700 o awyrennau i mewn ac allan o’r gogledd ddwyrain wedi cael eu canslo, ac fe wnaeth ysgolion a busnesau gau’n gynnar ddoe. Mae swyddfeydd y llywodraeth hefyd ar gau.
Mae llywodraethwyr a meiri dros y rhanbarth wedi symud yn gyflym i gau priffyrdd, strydoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus i ddiogelu teithwyr ac i arbed y gwasanaethau brys rhag cael eu galw.
Fe wnaeth system drenau tanddaearol Efrog Newydd gau’n gyfan gwbl am 11 neithiwr.
Mae’r storm hefyd wedi gohirio’r achos llys yn ymwneud a bomio Marathon Boston, ac achos llofruddiaeth y cyn seren NFL, Aaron Hernandez, yn Massachusetts.
Ar Wall Street, dywedodd Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd y byddai’n gweithredu yn ol yr arfer heddiw, ond mae holl theatrau Broadway wedi cau.