Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i gyfres o ddigwyddiadau yn Sblot, Caerdydd ddydd Llun gan gynnwys ymosodiad ar ddyn lleol 33 oed.

Roedd y digwyddiadau yn ymwneud a nifer o ddynion mewn sawl lleoliad yn yr ardal rhwng 11yb a 2yp ddoe, gan gynnwys Heol Mercia, Heol Sblot a Stryd Habershon, cyn dod i ben yn Wilkinson Close lle cafwyd hyd i’r dyn wedi’i anafu.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Caerdydd mewn ambiwlans awyr lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am lygad dystion i’r digwyddiad, neu a welodd unrhyw beth yn ardal Heol Mercia, Heol Sblot, Stryd Habershon a Wilkinson Close.

Dywed Heddlu De Cymru bod dyn lleol 31 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.