Mae’r cytundeb gwerth £1 biliwn i werthu cwmni Aer Lingus i berchennog British Airways wedi symud gam yn nes ar ôl i fwrdd y cwmni hedfan Gwyddelig roi cefnogaeth i’r gwerthiant.

Dywedodd bwrdd Aer Lingus ddoe eu bod yn barod i dderbyn cynnig o £1.90 y gyfran gan grŵp International Airlines Group (IAG).

Nawr mae’r cytundeb yn dibynnu ar ddau o gyfranddalwyr mawr eraill Aer Lingus –  Ryanair a Llywodraeth Iwerddon.

Mae Llywodraeth Iwerddon yn berchen ar gyfran o 25% yn Aer Lingus ac yn awyddus i sicrhau bod IAG yn bwriadu parhau gyda’r teithiau o Ddulyn i Heathrow.

Meddai IAG eu bod nhw’n bwriadu cadw Aer Lingus fel busnes ar wahân – gyda’i frand a rheolwyr ei hun.