Mae clymblaid o 17 o sefydliadau yn y DU heddiw wedi dweud y dylai atal cwmnïau rhyngwladol rhag osgoi talu trethi fod yn brif flaenoriaeth i’r llywodraeth nesaf.

Mae heddiw’n nodi 100 diwrnod tan yr etholiad cyffredinol ac mae ymgyrch i gefnogi’r Mesur Osgoi Trethi yn cynnwys ActionAid, Cymorth Cristnogol, the Equality Trust, UCM ac Oxfam ymhlith ei aelodau.

Maen nhw’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gyflwyno cyfraith o’r fath yn y 100 diwrnod cyntaf wedi’r etholiad er mwyn mynd i’r afael â chwmnïau corfforaethol sy’n osgoi talu trethi.

Yn ôl y glymblaid, gallai deddfwriaeth dreth gryfach godi biliynau yn ychwanegol i’r trysorlys i frwydro yn erbyn tlodi.

Mesur Osgoi Trethi

Mae papur polisi sy’n cael ei lansio gan y glymblaid heddiw yn amcangyfrif y byddai Mesur Osgoi Trethi yn gallu dod ag incwm o leiaf £3.6 biliwn y flwyddyn i drysorlys y Deyrnas Unedig – sy’n cyfateb i £600 ar gyfer bob teulu sy’n byw o dan y ffin tlodi.

Maen nhw hefyd yn honni y byddai digon o arian hefyd i’w wario ar ysgolion, ysbytai a gwasanaethau hanfodol eraill.

Mae’r sefydliadau yn cynnig Mesur Osgoi Treth fyddai’n ei gwneud hi’n anoddach i gwmnïau mawr osgoi talu trethu yn y DU.

‘Cywilyddus’

Meddai Christine Allen, pennaeth polisi a materion cyhoeddus Christiad Aid: “Mae cwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu yn y DU yn gyfrifol am golledion refeniw o filiynau o bunnoedd y flwyddyn – yn y wlad hon ac yn rhai o wledydd tlotaf y byd.

“Mae gwir angen yr arian yna i frwydro yn erbyn tlodi. Mae osgoi talu treth yn broblem foesol sylfaenol sy’n bodoli ledled ein heconomi fyd-eang.”

Meddai Nick Bryer, pennaeth ymgyrchoedd y DU gydag Oxfam: “Mae’r ffaith bod rhai o gwmnïau mwya’r byd yn osgoi talu treth, tra bod bron i filiwn o bobl yn llwgu yn gywilyddus.

“Er mwyn ariannu’r brwydro yn erbyn tlodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb eithafol, rydym ni angen sicrhau bod cwmnïau mawr yn talu eu rhan, yma ac yng ngwledydd tlota’r byd.”