Mae perfformiad addysg yng Nghymru wedi dangos arwyddion o welliant ond yn parhau i lusgo y tu ôl i wledydd eraill, meddai Prif Arolygydd Estyn mewn adroddiad blynyddol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Ymysg y gwelliannau mae cyfraddau presenoldeb, tra bod cyfran y disgyblion sy’n absennol yn barhaus yn gostwng.

Mae’r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai sydd ddim wedi lleihau ychydig, yn ôl Ann Keane, ac fe wnaeth cyfran y bobol ifanc sydd ddim mewn addysg neu swydd ostwng eleni hefyd.

“Mae nifer o ddangosyddion pwysig yn awgrymu bod ymdrechion y sector addysg yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau o hyd,” meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd.

‘Ansawdd yr arweinyddiaeth’

Un agwedd siomedig, yn ôl Ann Keane, oedd bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi dirywio:

“Mae cyfran yr ysgolion da neu ragorol wedi gostwng o saith o bob deg y llynedd, i ychydig dros chwech o bob deg eleni.

“Mae ansawdd yr arweinyddiaeth yn parhau’n her. Mae gallu arweinwyr i feddwl ymhellach na’u sefydliad eu hunain yn nodwedd allweddol o’r hyn sydd ei angen i wella ein system addysg.

“Ond er bod safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd wedi dirywio, maent yn dal yn well yn gyffredinol nag mewn ysgolion uwchradd,” meddai Ann Keane.

Nododd arolygwyr wendidau ym medrau llythrennedd disgyblion a safonau mewn Cymraeg ail iaith, sydd heb wella ers y llynedd.

“Mae dysgwyr sydd mewn perygl o dangyflawni yn ffocws arbennig yn fy adroddiad blynyddol eleni, ac rwy’n annog pob arweinydd, rheolwr, athro a gweithiwr proffesiynol arall i ddarllen fy nghanfyddiadau.”

‘Anghysondeb mewn asesu’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru angen mynd i’r afael a’r anghysondeb mewn asesiadau athrawon mewn ysgolion cynradd: “Er bod hyn wedi cael ei adnabod fel man sydd angen gwella gan Estyn saith mlynedd yn ôl,” meddai.

“Mae pwyslais ar ficro-reolaeth yn rhwystro ysgolion rhag cefnogi a datblygu arweinyddion i’r dyfodol.

“Mae’r Prif Arolygydd yn llygad ei lle pan ddywedodd bod gormod o fuddsoddi wedi bod mewn biwrocratiaeth a dim digon i adeiladu ar y gallu o fewn y gweithlu.”

Rhifedd

Ychwanegodd Cyfarwyddwr undeb athrawon ATL, Dr Philip Dixon: “Mae’r adroddiad yn dangos bod rhifedd yn parhau yn fan gwan yn ein hysgolion. Rydym angen rhoi’r un pwyslais a’r hyn gafodd ei roi ar lythrennedd – maes sydd wedi gwella’n sylweddol.

“Rhaid i’r Llywodraeth fod yn ofalus nad yw’r system gategoreiddio newydd yn cynyddu tueddiad i benaethiaid ganolbwyntio ar eu hysgolion nhw yn unig, sy’n cael eu hadnabod fel problem allweddol gan Ann Keane.”