Mae perfformiad Gwasanaeth Iechyd Cymru (GIG) yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru wedi “dirywio’n sylweddol” ac mae rhai cleifion o bosibl yn cael niwed trwy aros yn hir am driniaeth ddewisol.

Dyna gasgliad adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cael ei ryddhau heddiw, sydd hefyd yn dweud bod Lloegr a’r Alban yn perfformio’n well na Chymru yn erbyn targedau llymach.

Ond mae’r adroddiad yn awgrymu bod potensial i wella’r sefyllfa gyda chynlluniau newydd, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol.

Amseroedd aros

Er bod y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu trin o fewn y targed o 26 wythnos, ym mis Mawrth 2014, roedd 11% o gleifion wedi disgwyl yn hirach na hyn, ac roedd 3% wedi disgwyl mwy na 36 wythnos, meddai’r adroddiad.

Nodir hefyd nad yw targedau amseroedd aros wedi’u cyflawni ers mis Medi 2010, gyda pherfformiad yn gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.

Daw’r adroddiad ddiwrnod wedi i ddau arolwg barn newydd – un gan YouGov i ITV Cymru a’r llall gan ICM i BBC Cymru – ddangos fod yr hyder yn y GIG yng Nghymru wedi plymio dros y flwyddyn a hanner diwetha’.

‘Potensial i wella’

“Fel rwyf wedi nodi o’r blaen, mae angen trafodaeth agored a gonest ynglŷn â’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu,” meddai Huw Vaughan-Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

“Mae yna gynlluniau newydd sydd â’r potensial i wella’r sefyllfa hon, ond bydd angen i’r GIG fod yn gryf ac yn ddewr i ymrwymo i’r cynlluniau hyn er mwyn sicrhau newidiadau ystyrlon.”

‘Angen gweithredu’n gyflym’

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar, bod y dirywiad ym mherfformiad y GIG yn “destun pryder”:

“Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir nad prinder ewyllys neu ymdrech ar ran staff y GIG yw achos hyn, ond y system a’r prosesau hynny sy’n canolbwyntio’n ormodol ar y tymor byr.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru yn sobri yn wyneb yr adroddiad hwn a gwneud newidiadau a gwelliannau go iawn.”

Ychwanegodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams:

“Nid yw hi’n iawn nag yn deg bod cleifion yng Nghymru yn gorfod aros yn hirach na chleifion Lloegr, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i newid hyn.”

Argymhellion yr adroddiad

  • sicrhau bod yna gynllun cliriach i greu amseroedd aros cynaliadwy a phriodol yn seiliedig ar ddealltwriaeth ymarferol o’r galw a chapasiti ledled y GIG;
  • ad-drefnu’r system cleifion allanol bresennol yn llwyr i wella effeithlonrwydd a chanolbwyntio ar anghenion y claf;
  • adolygu’r rheolau atgyfeirio i driniaeth a’r ffordd y maent yn cael eu dehongli’n lleol i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu trin yn annheg;
  • cyhoeddi mwy o ddata cenedlaethol a lleol i gefnogi’r gwaith o graffu ar amseroedd aros a’u rheoli; a
  • sicrhau gwell cyfathrebu â chleifion am eu cyfrifoldebau a’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan y system ofal

Adroddiad Nuffield

Yn ogystal ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, mae adroddiad gan Ymddiriedolaeth Nuffield ar ran BBC Cymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw – gyda’r ddau yn ategu canfyddiadau ei gilydd.

Wrth ymateb i’r adroddiad, sydd hefyd yn honni bod gan gleifion “sail wirioneddol dros bryderu” ynglŷn â’r amseroedd aros,  dywedodd Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr yng Nghymru:

“Wedi blynyddoedd o doriadau hanesyddol, mae GIG Cymru yn tanberfformio yn erbyn mesuriadau allweddol o’i gymharu â gwasanaethau iechyd mewn rhannau eraill o’r DU.

“Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y GIG wedi gwario llai y pen nag unrhyw ran arall o’r DU.

“Mae angen i weinidogion Llafur ddadwneud y toriadau iechyd dinistriol hyn a rhoi’r adnoddau cywir i’r gwasanaeth iechyd fel bo’r staff gweithgar yn medru darparu’r safon uchel o ofal y mae’r cleifion yn ei ddisgwyl.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.