AS y Blaid Werdd Caroline Lucas yn annerch protestwyr ger Palas Westminster
Mae protestwyr, gan gynnwys Bianca Jagger a Vivienne Westwood, wedi rhybuddio bod bywydau mewn perygl oherwydd ffracio.
Cafodd y brotest ei chynnal ger Palas Westminster yn Llundain lle cafodd deiseb ei chyflwyno ag arni 361,000 o enwau, yn gwrthwynebu cynlluniau i dyllu am nwy siâl.
Roedd mwy na 100 o bobl, gan gynnwys AS y Blaid Werdd, Caroline Lucas, yn y brotest wrth i Aelodau Seneddol drafod deddfwriaeth ynglŷn â ffracio yn y Bil Isadeiledd.
Dywedodd Bianca Jagger, cyn wraig un o’r Rolling Stones Syr Mick Jagger: “Rwy’n bryderus fel mam, a mam-gu, y bydd ffracio yn amharu ar ein ffordd o fyw, ar ein hamgylchedd, ar ein ffynonellau dwr, ar ansawdd yr aer, ac y bydd yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.”
Mae hi wedi wfftio dadleuon y bydd ffracio yn rhoi hwb i’r economi, gan alw am fuddsoddi mewn ynni adnewyddol yn lle.
Dywedodd y cynllunydd dillad, y Fonesig Vivienne Westwood bod “unrhyw un sy’n credu mewn ffracio yn hynod o anwybodus” a bod angen troi at economi werdd.
Fe ddywedodd y gweinidog ynni, Amber Rudd, wrth ASau y prynhawn ma y bydd gwaharddiad llwyr ar ffracio mewn parciau cenedlaethol.