Llun gwneud o bencadlys newydd BBC Cymru
Mae cynlluniau BBC Cymru i adleoli i ganol Caerdydd gam yn agosach gyda chyhoeddi gwerthiant amodol y Ganolfan Ddarlledu a Thŷ Oldfield yn Llandaf.
Mae’r gwerthiant yn amodol ar gwmni datblygu Taylor Wimpey yn sicrhau caniatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd ar gyfer ei datblygiad arfaethedig.
Ym mis Mehefin 2014, cyhoeddodd y BBC ei chynlluniau i symud ei phrif bencadlys yng Nghymru i ganolfan ddarlledu newydd ar y Sgwâr Canolog tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog, yn ystod 2018.
Bydd gwerthu’r safleoedd presennol yn helpu i ariannu’r datblygiad newydd.
Potensial
“Mae ein safleoedd ni yn Llandaf wedi’n gwasanaethu’n dda am bron i hanner canrif. Ond mae’r dechnoleg a’r cyfleusterau yma yn dangos eu hoedran a bydd ein cartref newydd yn ein galluogi i gryfhau ein rhaglenni a’n gwasanaethau,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.
“Rwy’n credu bod y cynlluniau cyffrous ar gyfer ein cartref newydd ar y Sgwâr Canolog yn gwneud synnwyr go iawn i’r BBC, yn greadigol ac yn ariannol, ac mae ganddyn nhw’r potensial i chwarae rôl ganolog wrth ddatgloi adfywiad rhan bwysig o’n prifddinas.”
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale: “Ry’n ni am greu porth newydd i’r ddinas, un sydd o’r safon uchaf o ran dyluniad a chynaliadwyedd. Mae adleoli BBC Cymru i’r Sgwâr Canolog yn ddatganiad mawr o hyder yn ein cynlluniau i adeiladu sgwâr cyhoeddus sy’n deilwng o unrhyw brifddinas yn Ewrop.”
Bydd cais am sêl bendith terfynol ar gyfer adleoli BBC Cymru i’r Sgwâr Canolog yn digwydd yn ddiweddarach eleni.