Bryn Parry Jones
Fe wnaeth Cyngor Sir Benfro dalu bron i £9,000 er mwyn dod a chytundeb llogi car Porsche i’r cyn-brif weithredwr i ben.

Cafodd y cytundeb ei ganslo wedi i Bryn Parry Jones adael ei swydd ym mis Hydref ar ôl derbyn pecyn diswyddo gwerth £330,000.

Fe adawodd ei swydd, gyda chyflog o £195,000 y flwyddyn, yn dilyn honiadau ei fod wedi derbyn taliadau anghyfreithlon yn ymwneud â’i bensiwn.

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan y cynghorydd Jacob Williams ar ei wefan,  wedi i’r Comisiynydd Gwybodaeth orchymyn y dylai’r cyngor ddatgelu faint oedd yn cael ei wario bob mis ar gar ar gyfer Bryn Parry Jones.

Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi cadarnhau bod y swm yn gywir.

Dywedodd Jacob Williams bod y cyngor wedi gorfod talu costau rhentu pedwar mis ar gyfer y Porsche gwerth tua £90,000 – sy’n golygu bod £2,167.46 wedi cael ei wario bob mis ar gar Bryn Parry Jones.