Mae’r cwmni sy’n rhedeg teithiau awyren o Gaerdydd i Ynys Môn wedi cadarnhau y bydd gwasanaeth newydd yn hedfan i Norwich.
O 20 Ebrill, bydd y gwasanaeth gan gwmni LinksAir o Gaerdydd neu Ynys Môn yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda thocynnau unffordd yn cychwyn o £59.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd golwg 360 bod cwmni LinksAir o Doncaster wedi penodi Travel Line Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mhorthmadog, fel y ganolfan fydd yn ateb galwadau ffôn ynglŷn â’r gwasanaeth newydd a’r rhai presennol.
Manteision
“Mae hi’n wych gweld LinksAir yn ychwanegu teithiau o Gaerdydd ac yn cymryd mantais o’r cyfle i gysylltu Cymru hyd yn oed yn bellach,” meddai Spencer Birns ar ran maes awyr Caerdydd.
“Fe fydd ardal Norfolk a dwyrain Lloegr yn apelio i fusnesau a phobol sydd am fynd am wyliau, yn ogystal â dod ag ymwelwyr i Gymru.”
Ychwanegodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn: “Mae’r ddau leoliad yn chwarae rhan bwysig yn y diwydiant ynni, ac mae cael cysylltiadau rhwng y ddwy ardal yn mynd i ddod a buddio i’r ddau le.”