Mae’r FBI yn cynnal ymchwiliad ar ôl i safleoedd Twitter a YouTube lluoedd yr Unol Daleithiau gael eu hacio gan rai sy’n honni ei bod yn gweithredu ar ran y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Roedd y Pentagon wedi ymateb ar unwaith gan gau’r safleoedd ddoe a dywedodd nad oedd pryder am unrhyw wybodaeth gyfrinachol.

Mae’n debyg fod y grŵp hacio, sy’n galw ei hun yn CyberCaliphate, hefyd yn gyfrifol am hacio gwefannau Twitter y cyfryngau yn ystod y mis diwethaf gan gynnwys gorsaf deledu yn Maryland a phapur newydd yn New Mecsico.

Dywed yr FBI eu bod yn cydweithio gyda’r Pentagon i geisio asesu pa mor eang yw’r broblem.