Mae cwmni ynni E.ON wedi cyhoeddi y bydd yn gostwng pris nwy o 3.5% ar gyfartaledd.

Mae disgwyl i’r gostyngiad ddod i rym ar unwaith.

Dywed y cwmni y bydd yn golygu  gostyngiad o tua £24 oddi ar filiau nwy blynyddol.

Mae gan E.ON 4.5 miliwn o gwsmeriaid.