Milwyr yn gwarchod synagog ym Mharis
Mae 10,000 o filwyr yn gwarchod safleoedd yn Ffrainc yn dilyn tri diwrnod o ymosodiadau brawychol.

Yn y cyfamser mae’r chwilio’n parhau am y rhai fu’n cynorthwyo gyda’r ymosodiadau pan gafodd 17 o bobl eu lladd, a thri o’r dynion arfog.

Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc Manuel Valls bod angen dod o hyd i’r rhai fu’n eu cynorthwyo ar frys gan fod “bygythiad o hyd”.

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau ddydd Mercher gyda chyflafan yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis, a daeth i ben pan gafodd y tri ymosodwr eu lladd mewn dau gyrch gan luoedd diogelwch ddydd Gwener.

Mae gweinidog amddiffyn Ffrainc wedi dweud y bydd 10,000 o filwyr yn gwarchod y cyhoedd ac yn canolbwyntio ar y safleoedd mwyaf sensitif.

Bydd 4,700 o luoedd diogelwch yn cael eu hanfon i warchod 717 o ysgolion Iddewig yn Ffrainc.

Yn y cyfamser roedd gweddw un o’r ymosodwyr wedi croesi’r ffin i Syria ddydd Iau, y diwrnod ar ôl yr ymosodiadau ar Charlie Hebdo, a’r un diwrnod yr oedd ei gwr wedi saethu plismones yn farw ar gyrion Paris, meddai gweinidog tramor Twrci.

Dywedodd Mevlut Cavusoglu bod Hayat Boumedienne wedi cyrraedd Twrci o Madrid ar Ionawr 2, cyn yr ymosodiadau, gan aros mewn gwesty yn Istanbul.

Ychwanegodd ei bod hi wedi teithio i Syria ddydd Iau diwethaf.

Ddoe, daeth fideo i’r amlwg o un o’r ymosodwyr yn esbonio sut y byddai’r ymosodiadau yn cael eu cynnal ac mae’r heddlu yn awyddus i ddod o hyd i’r person wnaeth ffilmio a phostio’r fideo ar y we.