Ni fydd hyd at ddwy filiwn o bobl sy’n ymddeol yn gymwys i gael pensiwn gwladol newydd llawn pan fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
Fe fydd tua 3.5 miliwn o weithwyr yn cyrraedd eu hoedran ymddeol rhwng 2016 a 2020 ond o’r rhain, dim ond 45% fydd yn cael derbyn eu pensiwn gwladol llawn o £148.40, yn ôl y cwmni pensiynau Hargreaves Lansdown.
Fe fydd y pensiwn cyfredol yn cael ei ddisodli gan bensiwn newydd o un taliad o o leiaf £148.40.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Hargreaves Lansdown dim ond 45% o’r rhai sy’n ymddeol rhwng 2016 a 2020 fydd yn derbyn y swm llawn.
Mae’n cynnwys miliwn o bensiynwyr yn y pum mlynedd gyntaf a fydd yn derbyn llai na 86% o’r pensiwn gwladol newydd.
Dywedodd Tom McPhail, pennaeth ymchwil pensiynau yn Hargreaves Lansdown: “Mae’r pensiwn gwladol newydd yn system fwy teg a syml.
“Serch hynny, yn y tymor byr, fe fydd yn gymhleth ac mae’n debyg y bydd nifer o bobl yn cael llai na’r hyn roedden nhw’n ei ddisgwyl.”
Mae Adran Waith a Phensiynau yn mynnu na fydd unrhyw un ar eu colled o ganlyniad i’r newidiadau.