Ken Skates
Bydd pump o archifau yng Nghymru’n derbyn cyllid gwerth dros £43,000 i wneud gwaith cadwraeth hanfodol ar eitemau bregus a rhai sydd wedi cael eu difrodi yn eu casgliadau.

Daw’r cyllid ychwanegol yn dilyn sefydlu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol (NMCT).

Bydd yr arian yn mynd at gwblhau gwaith cadwraeth ar eitemau sydd heb fod ar gael i’w gweld llawer oherwydd eu cyflwr.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys digido’r dogfennau gan olygu y bydd pobl yn gallu eu gweld ar-lein o’u cartrefi yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys dau lyfr o lythyrau sy’n dyddio o 1811-1824 – gydag un llyfr sy’n cynnwys cofnodion o yrfa filwrol yr awdur yn ystod brwydr Waterloo.

Casgliad arall fydd yn derbyn gwaith cadwraeth yw detholiad o 41 o luniau, brasluniau a dargopïau o waith a gafodd eu cynllunio a’u creu gan Reginald Hallward (1858-1948).

Roedd Reginald Hallward yn ffigwr pwysig ym myd y celfyddydau a symudiad chrefft fel peintiwr, artist gwydr lliw, darlunydd a dylunydd.

‘Cynulleidfa ehangach’

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’r bartneriaeth yn gyfle gwych ar gyfer y gwasanaethau archifau yng Nghymru i wneud gwaith cadwraeth ar eu casgliadau.

“Bydd y gwaith cadwraeth yn gwella mynediad i’r eitemau. Mewn cyflwr sefydlog, gall eitemau gael eu hastudio, eu trin yn ddiogel a’u digideiddio, ac o ganlyniad i hynny byddant ar gael i gynulleidfa ehangach drwy gyfrwng y rhyngrwyd.”