Mae cwmni llaeth mwyaf y DU wedi penderfynu gihirio rhoi taliadau i’w ffermwyr yn dilyn cwymp ym mhrisiau llaeth.
Dywedodd First Milk, cwmni cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr yn y DU, fod 2014 wedi bod yn “flwyddyn o ansefydlogrwydd” yn y diwydiant llaeth yn fyd-eang.
Meddai cadeirydd First Milk, yr AS Ceidwadol Syr Jim Paice, y bydd y cwmni’n gohirio’r taliadau, oedd i’w talu i ffermwyr heddiw, am bythefnos a bydd yr holl daliadau dilynol hefyd yn cael eu gohirio am bythefnos.
Dywedodd Syr Jim Paice mewn datganiad: “Rydym yn deall y bydd gohirio taliad llaeth yn peri pryder i’n haelodau gan y bydd eu debydau a thaliadau uniongyrchol wedi cael eu trefnu yn erbyn taliadau llaeth.
“Ar sail hynny, rydym yn gweithio gyda phob banc mawr ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i esbonio’r rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad hwn.
“Nid ydym yn gwybod am ba mor hir y bydd y dirywiad yn y farchnad yn para, ac rydym yn ymwybodol fod cannoedd o ffermwyr llaeth yn y DU yn annhebygol o ddod o hyd i brynwr ar gyfer eu llaeth y gwanwyn hwn.”
Ychwanegodd y bydd y penderfyniad yn rhoi’r busnes ar “lwyfan cryfach” cyn y gwanwyn.