Bydd adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi gan Gomisiynydd Plant Cymru heddiw yn mynd ati i geisio canfod gwersi y gallai unrhyw ymchwiliad i gam-drin plant yn y dyfodol eu dysgu yn sgil Ymgyrch Pallial yng ngogledd Cymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar oblygiadau Ymgyrch Pallial i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal.
Ym mis Tachwedd 2012, sefydlwyd Ymgyrch Pallial i edrych ar honiadau penodol o gam-drin plant yn y gorffennol yng ngogledd Cymru.
Mae’r adroddiad newydd yn edrych ar y prosesau cynnar a sefydlwyd gan Ymchwiliad Pallial, gan gynnwys gwaith cyfathrebu, cymorth i oroeswyr, a’r goblygiadau i blant mewn lleoliadau gofal yng Nghymru heddiw.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno barn sampl bach o oroeswyr i helpu i ffurfio sail ar gyfer nifer o bwyntiau dysgu i ymchwiliadau yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cwmpasu meysydd sy’n cynnwys:
– effaith y cyfryngau cymdeithasol a darlledu ar oroeswyr, a materion yn ymwneud â phrofiad y goroeswyr yn y llys,
– yr angen i benodi gweithiwr cymdeithasol penodol i unrhyw dîm ymchwil yn y dyfodol i gynorthwyo â materion sy’n ymwneud ag ymdrin â goroeswyr, ac
– ystyriaeth o effaith ymchwiliadau mawr o’r fath ar nifer cyfyngedig o gyrff sy’n darparu cwnsela arbenigol, ar adeg sy’n gweld cynnydd cyffredinol yn y galw.
Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Pan ofynnodd Ymchwiliad Pallial i mi gydlynu’r gwaith hwn, elfen hollbwysig o’r gwaith i mi oedd clywed barn y goroeswyr.
“Roeddwn i’n dymuno clywed yn uniongyrchol am eu profiadau nhw, yn ogystal â barn gweithwyr proffesiynol fu’n rhan o’r Ymchwiliad, er mwyn i mi allu llunio cyfres o bwyntiau dysgu cadarn.
“O’r dechrau gwnaeth y modd mae Ymchwiliad Pallial wedi rheoli ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan oroeswyr argraff dda iawn arnaf i.
“Rwyf i’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gyfres o gyhoeddiadau fydd yn golygu bod y rheini sy’n arwain yr amrywiol ymchwiliadau sydd ar waith ar hyn o bryd i gam-drin plant yn y gorffennol yn gallu gwrando ar farn y goroeswyr, gan sicrhau bod pob un yn datblygu i fod yn ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan y goroeswyr.”
Fe arweiniodd yr ymchwiliad at garcharu John Allen, cyn-reolwr cartrefi plant yn y gogledd, a gafwyd yn euog o 33 o gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol.