Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd
Mae ysbyty yn ne Cymru wedi gorfod dechrau clymu teganau i welyau plant sâl ar ôl lladradau diweddar.

Mae rhieni wedi dweud fod y lladron sydd wedi targedu Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn “ffiaidd”, a’u bod wedi synnu fod teganau ar gyfer plant sy’n ddifrifol wael yn gorfod cael eu cloi er mwyn eu hatal rhag cael eu dwyn.

Cymerodd Dean Beddis, 49, llun o’i fab dwy flwydd oed, Soren, yn ceisio chwarae gyda thegan oedd wedi cael ei glymu i’w grud yn yr ysbyty.

Dywedodd Dean Beddis wrth y Daily Mirror: “Mae’r teganau yna i blant sy’n ddifrifol wael. Cefais fy synnu o weld tegan wedi ei glymu i’r crud gyda chlo beic.”

Dywedodd ffynhonnell yn yr ysbyty: “Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am o leiaf bedwar mis a chyn belled ag y gwn i, mae llawer o deganau wedi cael eu dwyn.”

Meddai’r papur newydd eu bod ar ddeall fod staff yr ysbyty nawr yn cloi pob drws ar ôl gadael ystafell fel rhagofal ychwanegol yn erbyn lladron.