Canghellor yr Almaen, Angela Merkel
Mae degau o filoedd o bobl wedi bod yn protestio yn Dresden yn nwyrain yr Almaen yn erbyn hiliaeth a thros gymdeithas agored.
Roedd y protestiadau’n ymateb i’r ralïau gwrth-Islamaidd sydd wedi bod yn digwydd ers misoedd yn Dresden.
Caiff y ralïau wythnosol eu cynnal gan grŵp sy’n galw ei hun yn Pegida, neu Ewropeaidd Gwladgarol yn erbyn Islameiddio’r Gorllewin, ac maen nhw wedi bod yn denu hyd at 18,000 o bobl.
Heddiw, fodd bynnag, llwyddodd eu gwrthwynebwyr i ddenu mwy na dwywaith hynny – tua 35,000 o brotestwyr.
Dywedodd Maer Dresden, Helma Orosz wrth y protestwyr na fydd eu dinas “yn cael ei gwahanu gan gasineb”.
Roedd y Canghellor Angela Merkel hefyd wedi bod yn galw ar Almaenwyr i beidio â chymryd rhan yn ralïau Pegida.