Maer Llundain, Boris Johnson
Bydd rhai o adeiladau enwocaf Llundain yn cael eu goleuo yn nhrilliw baner Ffrainc yfory fel ffordd o dalu teyrnged i ddioddefwyr y digwyddiadau erchyll yn Paris.

Mae gwylnosau eisoes wedi cael eu cynnal yn Llundain fel mewn llawer dinas arall ledled y byd i gofio’r 17 o bobl a gafodd eu llofruddio gan yr eithafwyr Mwslimaidd Said a Cherif Kouachi ac Amedy Coulibaly yr wythnos yma.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron a’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar eu ffordd i Paris ar gyfer rali o undod, sy’n cael ei disgrifio fel “cri dros ryddid” yn erbyn terfysgaeth.

Mewn teyrnged i gyd-ddigwydd â’r ralïau yn Ffrainc, bydd Tower Bridge a Trafalgar Square yn arddangos lliwiau baner drilliw Ffrainc o 4 o’r gloch ymlaen. Bydd olwyn y London Eye yn mynd yn dywyll, gyda’r coch, gwyn a glas yn cael eu taflunio ar Neuadd y Sir y tu ôl iddi.

Meddai Maer Llundain, Boris Johnson:

“Mae pobl Llundain wedi cael eu ffieiddio gan y golygfeydd erchyll yn Ffrainc yr wythnos yma, ac mae’n bwysig ein bod ni’n talu teyrnged i ddioddefwyr yr ymosodiadau hyn, yn ogystal â dangos ein hundod â phobl Paris.

“Ddylen ni ddim anghofio’r cannoedd o filoedd o ddinasyddion Ffrainc y mae Llundain yn gartref iddyn nhw.

“Mae ymuno gyda’n dilydd mewn gwrthwynebiad i ideoleg casineb yn anfon y neges gliriaf bosibl – un o ryddid mynegiant ac un o benderfyniad. Nous sommes Charlie.”