Sameena Imam o Gaerdydd (llun: PA)
Mae dau frawd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dynes o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers y diwrnod cyn y Nadolig.

Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf yn y siop Costco yn Torrington Avenue, Coventry, lle’r oedd hi’n gweithio.

Cafwyd hyd i gar BMW du y ddynes 34 oed gan dditectifs yn Luton, 65 milltir i ffwrdd, ddydd Sul diwethaf.

Dridiau wedyn, cafodd Roger Cooper, 40 oed o Coventry, a David Cooper, 38 oed o Gaerlŷr, eu harestio yn eu cartrefi, a’u cyhuddo ddoe.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark Payne o heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, fod y cyhuddiadau’n “ddatblygiad pwysig” yn yr achos a’i fod yn cydymdeimlo â theulu Sameena Imam.