Abubakar Shekau, arweinydd Boko Haram, Nigeria Llun: PA
Mae’n ymddangos bod y grŵp milwriaethus Islamaidd Boko Haram wedi cyflawni ei ymosodiad gwaethaf erioed yn Nigeria.
Mae Amnest Rhynglwadol yn ofni bod hyd at 2,000 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau ar dref Baga, gerllaw’r ffin â Chad, yr wythnos yma.
Dywed llefarydd ar ran llywodraeth Nigeria fod yr ymladd yn parhau ar ôl i Boko Haram gipio canolfan filwrol allweddol wythnos yn ôl, ac ymosod wedyn ddydd Mercher.
Mae adroddiadau bod tref Baga wedi cael ei dinistrio’n llwyr a channoedd o gyrff ar y cyrion o gwmpas o ganlyniad i drigolion yn ceisio dianc rhag y gwrthryfelwyr arfog.
“Mae’r gyflafan hon yn arwydd o gynnydd gwaedlyd yn ymosodiadau parhaus Boko Haram – rhywbeth sy’n achosi pryder mawr,” meddai Daniel Eyre, un o ymchwilwyr Amnest Rhyngwladol yn Nigeria.