Bydd cyfle i weld uchafbwyntiau o bencampwriaethau seiclo traws gwlad Ynysoedd Prydain, sy’n cael eu cynnal yn y Fenni y penwythnos yma, ar S4C brynhawn yfory.

Mae traws-seiclo (Cyclo-cross) yn prysur ennill poblogrwydd yng ngwledydd Prydain – a bydd S4C ymhlith y darlledwyr cyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi sylw cyson i’r gamp.

Mae rasio traws-seiclo yn debyg i rasio trawsgwlad ar gefn beic, gyda’r teiars tenau yn rasio’n gyflym trwy’r baw a’r rhwystrau diri – a lle mae’r cystadlu’n danbaid.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C:

“Mae Cyclo-cross yn datblygu’n fwyfwy poblogaidd yma, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc, ac mae ein rhaglenni teledu fel Clwb a’n gwasanaeth ar-lein am adlewyrchu hynny. Mae uchafbwyntiau Traws-seiclo yn ychwanegu at ein darpariaeth seiclo, sy’n cynnwys Le Tour de France, y Clasuron a nifer o gystadlaethau seiclo eraill.”

Mae’r Bencampwriaeth yn y cael ei chynnal yn y Fenni am y tro cyntaf ers 2005, a bydd yn cael sylw llawn ar Clwb am 12.30 bnawn yfory.

Pwy sy’n cystadlu?

Pencampwr y llynedd, Ian Field, sef y Prydeiniwr uchaf ar restr detholion Cwpan y Byd, fydd y ffefryn i amddiffyn ei goron yn ras y dynion gyda Liam Killeen, a gynrychiolodd Prydain yn y Beicio Mynydd yng Ngemau Olympaidd 2004, 2008 a 2012, hefyd ymysg y ffefrynnau.

Ond bydd digon o Gymry yn rasio hefyd, gyda Steven Roach, a gipiodd Pencampwriaeth Traws-seiclo Cymru yn Llanelwedd, ym mis Tachwedd yn gobeithio cyffroi’r dorf gartref.

Ac yn ras y merched bydd Ffion James, pencampwr Traws-seiclo Merched Cymru – a chwaer iau seren y byd trac, Becky – yn gobeithio mai hi fydd y Gymraes gyntaf i gipio’r Bencampwriaeth ers i Nicole Cooke ennill yn 2001.

Ond gyda Helen Wyman, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn y naw mlynedd diwethaf, hefyd yn rasio, bydd yn dalcen caled i James, a gipiodd y Bencampwriaeth i ferched iau yn 2014.