Glasgow 22–7 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Glasgow yn y gwynt a’r glaw yn Scotstoun nos Wener.

Er fod Bois y Sosban ar y blaen yn erbyn llif y chwarae ar yr hanner, roedd yr Albanwyr yn rhy gryf yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Roedd y cicwyr yn ei chael hi’n anodd yng ngwynt cryf Glasgow ac fe fethodd Finn Russell a Rhys Priestland (2) giciau cosb yn y chwarter awr cyntaf.

Y tîm cartref oedd yn cael y gorau o’r gêm a bu bron i’r capten, Josh Strauss, sgorio eu cais cyntaf ond doedd dim digon o dystiolaeth i’r dyfarnwr fideo ganiatau ei ymgais.

Ond roedd Glasgow yn llwyr reoli bellach a mater o amser yn unig oedd hi nes i’r pwysau arwain at gais anorfod i’r canolwr, Alex Dunbar.

Er gwaethaf goruchafiaeth Glasgow, y Scarlets oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i gais Liam Williams funud cyn yr egwyl. Sgoriodd y cefnwr gais unigol da yn dilyn rhyng-gipiad John Barclay ac roedd Bois y Sosban ar y blaen wedi trosiad Priestland.

Ail Hanner

Parhau i reoli a wnaeth Glasgow yn yr ail hanner, a hynny gyda’r gwynt erbyn hyn. Roeddynt yn ôl ar y blaen wedi pedwar munud yn dilyn cais y cefnwr, Peter Murchie, yn y gornel yn dilyn dadlwythiad da Leone Nakarawa, 12-7 y sgôr wedi trosiad taclus Russell.

Ychwanegodd Russell gic gosb chwarter awr o’r diwedd cyn i’r eilydd, DTH van der Merwe rwygo trwy’r amddiffyn i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda thrydydd cais yr Albanwyr.

Mae’r canlyniad yn codi Glasgow dros y Gweilch i frig y Pro12, tra mae’r Scarlets yn aros yn seithfed.
.
Glasgow
Ceisiau:
Alex Dunbar 27’, Peter Murchie 44’, DTH van der merwe 69’
Trosiadau: Finn Russell 45’, 70’
Cic Gosb: Finn Russell 66’
.
Scarlets
Cais
: Liam Williams 39’
Trosiad: Rhys Priestland 40’