Kim Jong Un, unben Gogledd Corea
Mae Gogledd Corea wedi cyhoeddi ei bod yn fodlon gohirio prawf niwclear os bydd America’n peidio â chynnal ymarferion milwrol gyda De Corea eleni.

Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Gogledd Corea, cafodd America ei hysbysu o’r cynnig ddoe.

Dywedodd yr adroddiad “ei bod yn bryd i’r Unol Daleithiau wneud penderfyniad eofn dros heddwch a sefydlogrwydd ar Benrhyn Corea”.

Mae Gogledd Corea wedi labelu’r ymarferon milwrol rhwng America a De Corea fel rihyrsal ar gyfer ymosodiad, er bod y ddwy wlad wedi dweud yn barhaus nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad o ymosod ar y Gogledd.

Fe wnaeth Gogledd Corea gynnal profion niwclear yn 2006, 2009 a 2013.

Byddai pedwerydd prawf yn dangos ymateb heriol i’r pwysau rhyngwladol o dan arweiniad America ar Ogledd Corea i roi’r gorau i’w rhaglen niwclear.