Dylai’r chwe chwmni ynni mwyaf dorri eu biliau mewn ymateb i’r cwymp ym mhris olew, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth San Steffan.

Fe wnaeth cost olew crai ostwng i’w lefel isaf ers pum mlynedd yr wythnos yma, ond does dim sôn y bydd yr arbedion yn cyrraedd cwsmeriaid.

Mae’r Gweinidog Busnes Matt Hancock wedi ysgrifennu at Nwy Prydain, Npower, E.ON, EDF, Scottish Power a Scottish & Southern Energy yn gofyn pam nad ydyn nhw wedi newid eu cyfraddau safonol, pan fo cyflenwyr eraill annibynnol wedi gwneud hynny.

“Rhaid i gyflenwyr ynni fod yn onest,” meddai. “Mae gen i eisiau gwybod pam nad yw arbedion yn cael eu pasio ymlaen. Pan oedd costau’n codi, roedd prisiau’n codi’n gyflym i gwsmeriaid. Bellach, mae costau’n gostwng, ond nid yw prisiau’n dod i lawr ddigon. All hyn ddim parhau.”