Bydd cig oen a chig eidion Cymru yn cael eu harddangos yn y ffair letygarwch fwyaf o’i math yn y byd, yn yr Iseldiroedd, yr wythnos nesaf.
Hwn fydd y tro cyntaf i’r asiantaeth Hybu Cig Cymru ymweld â ‘Horecava’, sef ffair fasnach wedi’i hanelu at y diwydiant gwasanaethau bwyd.
“Mae’r Iseldiroedd yn farchnad darged allweddol i ni yn 2015,” meddai Laura Pickup, o Hybu Cig Cymru. “Er ein bod eisoes yn allforio gwerth £14.3 miliwn o gig eidion a gwerth bron £4.5 miliwn o gig oen o Gymru i’r Iseldiroedd, mae ein hymchwil yn dangos fod yna le o hyd i welliant.”
Mae’r sector horeca (gwestai, tai bwyta a chaffis) yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Daeth hyn i’r amlwg yn y digwyddiad y llynedd, pan oedd 29 y cant o’r holl ymwelwyr, sef y gyfran fwyaf, yn dod o’r sector tai bwyta.
Ychwanegodd Laura Pickup: “Mae’r sioe fasnach hon yn gyfle i ddangos i unigolion allweddol o sefydliadau arlwyo ledled yr Iseldiroedd fod cig oen Cymru a chig eidion Cymru yn gynhyrchion rhagorol.
“Ein gobaith yw agor llygaid perchnogion tai bwyta, arlwywyr a phrynwyr i’n cynhyrchion anhygoel ar ddechrau blwyddyn newydd.”
Cynhelir y ffair dros bedwar diwrnod, o dydd Mawrth tan ddydd Gwener, yn Amsterdam, yr wythnos nesaf.