Abu Hamza (llun: PA)
Mae’r clerigwr Mwslimaidd eithafol Abu Hamza wedi cael ei garcharu am oes gan lys yn Efrog Newydd.

Fe ddaeth y clerigwr dadleuol i amlygrwydd yn Llundain yn yr 1990au, lle bu’n arwain Mosg Finsbury Park. Y gred yw bod un o gynllwynwyr ymosodiad Medi 11, Zacarias Moussaoui, a’r ‘bomiwr esgid’ Richard Reid wedi dod o dan ei ddylanwad, er ei fod yn gwadu iddo’u cyfarfod.

Ar ôl ymosodiad Medi 11, fe fu Hamza yn lledaenu negeseuon treisgar o’r Mosg, a chlywodd y llys dâp ohono’n honni bod ‘pawb yn hapus’ pan wnaeth yr awyrennau daro Canolfan Fasnach y Byd.

Roedd Hamza wedi cael ei garcharu ym Mhrydain am saith mlynedd am annog llofruddio a chasineb hiliol yn 2006, a chafodd ei estraddodi i America ar ôl proses gyfreithiol hir.

Ymysg y gyfres o gyhuddiadau yn ei erbyn yn America roedd cynorthwyo  herwgipwyr yn Yemen a cheisio sefydlu gwersyll hyfforddi al Qaida yn America.

Doedd dim modd iddo gael ei erlyn ar y cyhuddiadau hyn ym Mhrydain.

Wrth groesawu’r ddedfryd, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May:

“Dw i’n falch fod Abu Hamza wedi wynebu cyfiawnder o’r diwedd. Fe wnaeth ddefnyddio pob cyfle, dros flynyddoedd lawer, i rwystro a gohirio’r broses estraddodi.

“Mae ei ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb ei droseddau a dw i’n falch y bydd yn treulio gweddill ei fywyd yn y ddalfa.”