Mae rhybudd melyn o eira wedi cael gyhoeddi ar gyfer Cymru, gogledd a chanolbarth Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Daw hyn ar ôl diwrnod o wyntoedd cryfion ddoe – er mai’r Alban a gafodd ei tharo waethaf, cafodd gwynt o 76 milltir yr awr ei gofnodi yn Aberdaron.

Yn Stornoway ar ynys Lewis yn yr Alban cafwyd gwyntoedd o 113 milltir yr awr – y cryfaf ers i gofnodion gychwyn yno yn 1970.

Fe fu degau o filoedd o dai heb drydan yn yr Alban, lle bu’n rhaid gohirio gwasanaethau trên a chanslo gwasanaethau fferi a lle cafodd lori ei chwythu drosodd ar draffordd.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd barhau’n gryf drwy’r dydd heddiw gyda’r tymheredd yn disgyn yn sylweddol.